Strwythur Newydd i’r GIG yng Nghymru
Yn unol â’i hymrwymiad yng nghytundeb Cymru’n Un i gael gwared â’r farchnad fewnol yn y GIG yng Nghymru, cyhoeddodd Edwina Hart AC bapur ymgynghorol ar ad-drefnu’r GIG yng Nghymru. Mae Un Llais Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth am yr ymgynghoriad.
Mae’r Papur Ymgynghori yn cael ei gyhoeddi yn electroneg ar gyfer y cyfnod ymgynghori o ddeuddeg wythnos; hyd at y 25ain o Fehefin 2008. Mae ar gael ar wefannau Llywodraeth y Cynulliad a Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Cymru (HOWIS).
Yn ystod y cyfnod ymgynghori o ddeuddeg wythnos, bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori technegol penodol yn cael eu trefnu gyda’r GIG a chyrff statudol eraill, ynghyd a digwyddiadau ymgynghori mwy lleol gyda grwpiau o gleifion a’r cyhoedd. Nid yw’r dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau hyn wedi ei cyhoeddi hyd yma.
Mae yna bedwar Papur Cefndirol yn cefnogi’r Papur Ymgynghori, sydd ar gael ar y wefan, neu ar gopi caled ar gais. Rhain yw:
• Papur 1 – Cael Gwared Â’r Farchnad Fewnol;
• Papur 2 – Y System Gynllunio Newydd Arfaethedig;
• Papur 3 – Llywodraethu yn y System Iechyd; a
• Papur 4 – Cyrff a Sefydliadau’r GIG yng Nghymru.
Mae’r Papur Ymgynghori hwn ar gael hefyd, ar gais, mewn Braille ac ar dâp.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau parthed y llythyr hwn, neu’r Papur Ymgynghori, cysylltwch â Sian-Marie James ar 02920 826747 os gwelwch yn dda.

