Rydym am glywed eich barn chi am y newid yn yr hinsawdd!
Ydych chi’n iau na 25? Oes diddordeb gennych chi yn y newid yn yr hinsawdd?
Ymunwch â’r ddadl ar y newid yn yr hinsawdd a dweud eich dweud – rydym am glywed gennych!
Mae Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru wedi sefydlu grŵp ar Facebook o’r enw ‘Ein Dyfodol, Ein Llais’.
Nod y grŵp hwn yw annog pobl ifanc yng Nghymru i:
- Ddweud eu barn am y newid yn yr hinsawdd wrth yr Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd;
- Trafod materion y newid yn yr hinsawdd a rhannu gwybodaeth am brosiectau perthnasol ledled Cymru;
- Mynegi eu barn am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddod â phobl o ystod eang o sefydliadau at ei gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys pobl o fyd gwleidyddiaeth, busnes, o awdurdodau lleol, o fyd masnach ac eraill. Cadeirydd y Comisiwn yw Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, ac mae llawer o bobl ddylanwadol yn cymryd rhan. Diben y Comisiwn yw rhoi arweiniad ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, a chytuno ar yr hyn sydd angen ei wneud yng Nghymru.
Bydd o leiaf un Hyrwyddwr Newid Hinsawdd yn bresennol ym mhob cyfarfod, a byddant yn cyflwyno safbwyntiau’r grŵp Facebook ar ran holl bobl ifanc Cymru.
Y cwestiwn sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd yw:
"Ai lleihau ein hôl troed carbon yn sylweddol neu addasu i fyw mewn amodau tywydd eithafol fyddai hawsaf?"
Pam na wnewch chi ymuno â ni? Ewch i Facebook, ymunwch â’r grŵp a dweud eich dweud wrthym ni

