Mae gwybodaeth yn bwysig i gymunedau gwledig
Lansiodd Shelter Cymru y brosiect ‘Mae gwybodaeth yn bwysig i gymunedau gwledig’ yn Arberth, gyda chefnogaeth Angela Burns AC a llawer o grwpiau a mudiadau lleol, gan gynnwys Elfyn Williams, Swyddog Datblygu Rhanbarthol Un Llais Cymru, a fu’n gefnogol iawn ac fe fu’r tîm ym mhob rhan o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cyflwyno’r prosiect i Gynghorwyr Cymuned.
Siaradodd Angela Burns, Aelod Cynulliad Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, yn y lansiad ac ychwanegodd ei chefnogaeth trwy ddweud: "Un o’r prif ffactorau yn atal digartrefedd a lleddfu tlodi yw gallu cael gafael ar wybodaeth, a dyna pam mae’r prosiect hwn yn gam pwysig ymlaen i gymunedau gwledig yn ne orllewin Cymru.”
Mae’r prosiect yn ceisio helpu atal digartrefedd, lleddfu tlodi a chaledi ariannol ac unigedd gwledig trwy ddosbarthu pecynnau fydd yn rhoi gwybodaeth ymarferol ar dai, dyledion, budd-daliadau lles a lles gwledig trwy esboniadau dwyieithog i gymunedau gwledig llai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Bydd cymorth a chefnogaeth Cynghorwyr Cymuned yn helpu pobl leol i osgoi argyfyngau a sicrhau gwell ansawdd bywyd iddyn nhw’u hunain a’u teuluoedd. Gan fod y pecyn yn barod i’w ddosbarthu, mae llawer y gallwch ei wneud i gyfrannu at y gwaith a helpu cyflwyno’r prosiect i fwy o bobl mewn cymunedau gwledig llai.
Er mwyn cael gwybod mwy ffoniwch Ceri Wisdom, Cydlynydd Prosiect yn Swyddfa Caerfyrddin Shelter Cymru ar (01267) 225937 neu danfonwch e-bost at ruralinfo@sheltercymru.org.uk.

