Gweithio mewn Partneriaeth er Lles y Gymuned

Ar ddechrau 2006 penderfynodd y Cyngor Cymuned fod angen iddo gael gwared â pheth o’i hen offer chwarae a darparu cyfleusterau ychwanegol y gellid ei ddefnyddio gan bob grŵp oed a gallu.

Mae Cyngor Cymuned Gorslas yn berchen ar ac yn gofalu am 3 Pharc Chwarae ym mhentrefi cyfagos Cefneithin, Drefach a Gorslas yn Sir Gaerfyrddin sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol trwy bresept y Cyngor Cymuned.

O’r cychwyn sylweddolodd y Cyngor, er mwyn gwella’r Parciau a chydymffurfio â safonau presennol, y byddai angen darparu buddsoddiad cyfalaf o fwy na £120,000 ac er mwyn ariannu prosiect o’r fath y byddai angen ariannu allanol. Sylweddolodd y Cyngor hefyd, er mwyn denu’r swm hwn o arian, fod angen cynllun gwella a gweithredu wedi’i gostio a’i feddwl allan yn drylwyr.

Roeddem yn ffodus ar y pryd fod y cynllun grant Ewropeaidd ‘Un Gronfa’ a weinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dal ar gael a bod hyn a hyn o arian ar gael.  Gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin a Menter Cwm Gwendraeth i’w baratoi, bu ein cais yn llwyddiannus ac fe dderbyniwyd £5,000 i gynhyrchu cynllun gweithredu gyda chostau a darluniau 5 mlynedd ar gyfer y 3 Pharc o fewn y Cyngor Cymuned.  Cynhyrchwyd y cynllun gan Fiona Cloak Associates a dyma fu’r catalydd ar gyfer y cymorth ariannol a dderbyniwyd hyd yn hyn.

Roedd yn hollbwysig fod y gwerth digwestiwn y cynllun a’r 3 Pharc i’r gymuned wedi cael ei dderbyn gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn gymwys i dderbyn Arian Datblygu Cymunedol Enillion Cynllunio Adran 106 ac yn unol â fformiwla Cyngor Sir Caerfyrddin yn seiliedig ar nifer y tai mewn datblygiadau yn y gymuned, fe dderbyniwyd £49,000 dros gyfnod o 12 mis.

Roedd y Cyngor yn benderfynol o wneud i’r arian hwn weithio ac i gael y gwerth gorau allan ohono er mwyn cyfateb unrhyw ffynonellau ariannol eraill. Gyda chymorth parod Tîm Datblygu Cymunedol y Cyngor Sir gwnaed cais i Gyngor Chwaraeon Cymru am arian o dan Gronfa Cyfalaf Ffyrdd Gweithredol o Fyw Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd ein cynllun gwella 5 mlynedd yn ticio’r holl flychau ar gyfer y Gronfa Ffyrdd Gweithredol o Fyw ac fe ddefnyddiwyd £20,000 o’r arian oedd eisoes wedi cael ei roi inni yn arian cyfatebol i’r Prosiect Ffyrdd Gweithredol o Fyw. Roedd ein cais yn llwyddiannus ac fe drodd hynny ein £20,000 ni yn tua £80,000.  Roedd un o’r parciau yn gymwys i wneud cais am gymorth grant oddi wrth WREN o dan y Cynllun Credyd Treth Claddu Sbwriel ac fe gawsom £5,500 yn benodol ar gyfer offer chwarae ganddynt, gydag arian cyfatebol o £600 oddi wrth y Cyngor Cymuned.  Yn olaf ond nid lleiaf, rhoddodd y Cynghorydd Sir Terry Davies £3,600 i Brosiect y Parciau allan o’i ddyraniad o dan Gronfa Prosiectau Lleol Sir Gaerfyrddin.

Er mwyn cyflawni nodau llawn ein cynllun 5 mlynedd, mae angen arian ychwanegol o hyd ond 2 flynedd yn ddiweddarach llwyddwyd i gyrraedd ein targed cychwynnol o £120,000 ac mae pob un o’r 3 pharc wedi cael offer newydd ac mae unedau gweithgarwch wedi cael llwybr seiclo/cadw’n heini.

Mae’r cyngor ei hun wedi neilltuo arian ar gyfer datblygu’r Parciau a ddefnyddir os a phan ddeuir ar draws ffynonellau arian cyfatebol sy’n cyflawni gofynion ein cynllun gwella.

Fe welsom, trwy weithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill, y gall Cyngor Cymuned gydag adnoddau cyfyngedig fel Gorslas gyflawni ei amcanion. Mae’r Cyngor yn hynod ddiolchgar am yr holl gymorth a dderbyniwyd gan Fiona Cloak Associates, Menter Cwm Gwendraeth, Tîm Datblygu ac Adran Gynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin, WREN, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.

Wrth siarad yn ddiweddar, dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Gorslas, y Cynghorydd Anthony Rees fod ‘Y prosiect yn cynnwys y 3 Pharc Chwarae ym mhentrefi Cefneithin, Drefach a Gorslas wedi bod yn llwyddiant llethol gyda phobl o bob oed a gallu erbyn hyn yn gwneud defnydd o’r cyfleusterau newydd, nid yn unig er mwyn cadw’n heini ond hefyd i wella eu ffyrdd o fyw. Rydym yn ddiolchgar i’n  partneriaid; heb eu cymorth a’u cyfraniadau ariannol nhw ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosib’.  



Gweithredoedd Dogfen