GWAITH TÎM YN LLANDYFAELOG!

Dyma adroddiad gan y Cyng Mair Stephens ar ddigwyddiad meithrin gwaith tîm, sef gwobr Cyngor Cymuned Llandyfaelog am ennill cystadleuaeth y wefan gymunedol orau. Wedi ennill y wefan orau mae’n debyg ei bod yn rhesymol ein bod yn cadw’r gwaith da i fynd a derbyn y cynnig gwaith tîm. Mae’n deg dweud fod Cynghorwyr Cymuned Llandyfaelog wedi derbyn yr her gyda rhywfaint o ansicrwydd.

O gofio ein hystod oed, beth allen ni ddisgwyl  - diwrnod disgyblu; a fydden ni’n edrych yn wirion ac a fyddai’r tîm, sef y ffordd roedden ni’n meddwl am ein hunain, yn gweithio? Yn y pendraw cytunwyd y dyddiad, ond gan fod y tywydd y diwrnod cynt braidd yn ddiflas mae’n debyg fod pawb yn gobeithio’n dawel bach am ddilyw!

Gwawriodd y diwrnod a dyma 4 aelod a’r clerc yn mentro i Bentywyn. Er bod y tywydd yn braf roedd yn oer a llaith dan draed. Roedd y rhan fwyaf ohonom wedi bod yn aelodau’r Ffermwyr Ifanc neu grwpiau ieuenctid eraill ac wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau ‘It’s a Knock Out’. Roedd hynny’n baratoad da ac er gwaetha ein holl ofnau roedd rhaid inni feddwl ein ffordd trwy 5 tasg - pob un ohonynt yn cynnwys cludo dŵr, yn ogystal â ni’n hunain, o un lle i un arall! Er mawr syndod chawson ni ddim gormod o wlychfa!  Ond beth wnaethoch chi, meddech chi - symud teiars o un lle i’r llall yn y nifer lleiaf posib o symudiadau; mynd a dŵr a phobl o bwynt a i b ar fath o sgi; mynd trwy we corryn - sut oedden ni’n mynd i benderfynu (yn ofalus) pwy oedd yr ysgafnaf i fynd trwy’r tyllau uchaf? Y croesiad anorfod ar y ‘cenllif gwyllt’ yn defnyddio estyll, bareli cwrw gwag (dyna drueni) a chratiau poteli llaeth a gorffen trwy gael ‘pen y ddraig’ i geg y beipen trwy arllwys dŵr i mewn a gorchuddio’r tyllau i rwystro’r dŵr rhag llifo allan o’r beipen!Gwaith caled gyda'r teiars!

Yn dilyn yr holl ymarfer corff roedd paned yn hyfryd, a’r demtasiwn o gael gêm o denis bwrdd yr oedd rhaid ein llusgo i ffwrdd oddi wrthi i fynd draw i’r adran saethyddiaeth. Er bod rhaid inni weithio fel tîm yn hanner cyntaf y bore dyma ble ddechreuodd y cystadlu o ddifrif. Mae lle i gredu nad oedd pob un ohonom yn dweud y gwir a’r gwir i gyd am ein campau blaenorol yn y maes hwn ond pa ots, roedden ni’n cael hwyl!

Felly, a weithiodd y gwaith tîm. Yr ateb pendant yw DO. Fe ddysgon ni alluoedd ein gilydd ac efallai rywbeth newydd am ein gilydd ac ar y ffordd adref roedd digon i’w drafod am y dydd. Os ydych yn byw yn ardal Llandyfaelog peidiwch synnu gweld rhai o’r syniadau’n cael eu hailgylchu (Bod yn gynaliadwy ydy’r nod!) Os gewch chi byth y cyfle i fynd ar ymarferiad meithrin gwaith tîm------EWCH AMDANI.

Gwyliwch wefan Llandyfaelog yn www.llandyfaelog.org.uk .

Document Actions