Manylion a Chostau Hyfforddi

Pwrpas y rhaglenni hyn yw rhoi gwybodaeth i aelodau a’u helpu i ddatblygu, boed newydd eu hethol neu’n fwy profiadol. Byddant yn rhoi iddynt gorff helaeth o wybodaeth, dealltwriaeth a medrau, fydd yn eu galluogi i gyflawni eu rôl fel cynghorydd yn fwy effeithiol.

Bwriedir cyflwyno pob modwl mewn sesiwn o ddwy awr a hanner gyda’r nos (6:30yh - 9:00yh) mewn canolfannau cyfleus er mwyn osgoi’r angen i deithio’n rhy bell. Cost pob modwl hyfforddiant, wedi’i deilwra i faint y cyngor, fydd:

Ar gyfer cynghorau gyda dros 200 annedd:      
Aelodau ULlC £30  Eraill £40

Ar gyfer cynghorau gyda llai na 200 annedd:    
Aelodau ULlC £20  Eraill £30

Bydd lleoedd yn gyfyngedig i 20 mynychydd ac yn agored i bob cynghorydd, ac er na luniwyd y  rhaglen yn benodol ar gyfer clercod, mae croeso iddynt ddod arno gan y byddai’n gyflwyniad defnyddiol i’r Cwrs CiLCA sy’n cael ei hyrwyddo ar hyn o bryd gan SLCC ac ULlC.

I fynychu’r digwyddiad hwn, cwblhewch y Ffurflen Archebu isod a’i hanfon at: Un Llais Cymru, 24c Stryd y Coleg, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. SA18 3AF
Cewch anfoneb ar ol i'r hyfforddiant ddigwydd.

Mae Un Llais Cymru yn falch o gyhoeddi fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadau parhau â'r cynllun bwrsari am flwyddyn arall. Pwrpas y cynllun yw cynorthwyo cynghorau i gymryd rhan yn Rhaglen Hyffordiant Cynghorwyr Un Llais Cymru.

Os ydych yn gymwys, cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen Gais am Fwrsari ynghyd â'ch ffurflen archebu.

Noder:- Mae'n RHAID cynnwys y Ffurflen Fwrsari gyda'ch ffurflen gais am hyfforddiant ac ni ellir ei defnyddio i hawlio ar gyfer hyfforddiant sydd eisoes wedi ei gyflawni.

Ffurflen Archebu

Ffurflen Gais Bwrsari

 

Document Actions