Cynllun Bwrsari Cynghorwyr yng Nghymru
Mae Un Llais Cymru yn falch o gyhoeddi fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu parhau â’r cynllun bwrsari am flwyddyn arall. Pwrpas y cynllun yw cynorthwyo cynghorau i gymryd rhan yn Rhaglen Hyfforddiant Cynghorwyr Un Llais Cymru.
Ffurflen Gais ar gyfer Cynllun Bwrsari Cynghorwyr yng Nghymru
Mae’r meini prawf fel a ganlyn:
· Gallwch hawlio’r bwrsari os yw trosiant eich cyngor (h.y. incwm cyllidebol blynyddol yn £40,000 neu lai.
· Gall eich cyngor hawlio 50% o gost pob sesiwn hyfforddiant i fyny at uchafswm o £50.00 yn 2011/12. (Os nad ydych yn siŵr ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400 i gael esboniad).
· Rhaid danfon y ffurflen bwrsari hon gyda’ch ffurflen gais ar gyfer hyfforddiant
· Ni ellir hawlio’r bwrsari ar gyfer hyfforddiant sydd wedi digwydd yn barod
· Mae’r bwrsari ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rhaid ei hawlio a rhaid i’r hyfforddiant ddigwydd cyn yr 29ain o Chwefror 2012.
Dylech lenwi’r ffurflen bwrsari isod a’i danfon atom ni gyda’ch ffurflen archebu ar gyfer y cwrs/cyrsiau hyfforddi cynghorwyr o’ch dewis.
Mae faint o fwrsariaethau a gynigir yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael ac fe ddefnyddir trefn bendant "y cyntaf i’r felin gaiff falu”. Argymhellir felly eich bod yn gwneud eich cais yn gynnar.
Ffurflen Bwsari
Dychweler eich ffurflenni at:- Un Llais Cymru, 24c Stryd y Coleg, Rhydaman. SA18 3AF neu admin@unllaiscymru.org.uk

